|
|
Fron Heulog Bala - North Wales |
|
|||
Llety
£50.00 yr ystafell y noson yn dibynu ar nifer o nosweithiau ac adeg o;r flwyddyn. Pam dewis ni Mae gennym dros chwarter canrif o brofiad croesawu gwestai i’n cartref, gyda phwyslais ar ddarparu llety cyfforddus a glan a chynnig cefnogaeth i sicrhau bod ein gwestai yn mwynhau eu harhosiad. Mae dewis o fwydlen brecwast ar gael gyda darpariaeth ar gyfer diet arbennig ( gyda gwybodaeth o’r anghenion ymlaen llaw). ‘Rydym yn cynnig.
Lleoliad Tŷ trefol yw Fron Heulog, sydd wedi ei leoli ychydig o funudau o ganol
dref y Bala. O fewn munudau gallwch fod yn mwynhau llwybrau cerdded, o
rhai hawdd i rai sydd ar gyfer cerddwyr profiadol. Ein hamcan yw Darparu llety cyfforddus ac ymdrechu i sicrhau cefnogaeth i wneud yn siŵr bod ein gwestai yn mwynhau eu hunain. Iaith a diwylliant Cymru. Cymraeg yw iaith gyntaf y teulu, ac ‘rydym yn barod i gynnig cefnogaeth i ddysgwyr yr iaith, drwy roddi cyfle iddynt ymarfer ei sgil newydd. Mae’r Gymraeg yn iaith hynafol, ac mae ymwelwyr yn mwynhau ymarfer geiriau, a dysgu am lythrennau fel Ll. “Gwlad y Gan” - dyna ddisgrifiad o Gymru. Os yw ymwelwyr am gael cadarnhad o hyn mae côr byd enwog o bentref Llanuwchllyn yn ymarfer ar nos Iau, ac mae croeso i unrhyw un droi i mewn i’r Neuadd i wrando arnynt. Wrth gymryd cyfle i fynychu cyngherddau, eisteddfodau a sioeau amaethyddol, mae modd i ymwelwyr arsyllu bywyd cefn gwlad Cymru ar ei orau. Bala Tref fechan yw Bala o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ar lan llyn Tegid
sef y llyn mwyaf naturiol yng Nghymru. Mae’r dref ei hun yn cynnig
nifer o ddewisiadau llefydd i fwyta, yn ogystal â siopau busnesau
bychain sydd yn gwerthu nwyddau o ganw i banner y ddraig goch!, o
sgidiau cerdded i anrhegion i gofio am eich ymweliad a’r dref. Mae yna
Daith cerdded tref y Bala wedi ei darparu ac mae modd cael pamffled
i’ch arwain yn y Swyddfa Twrisiaeth sydd wrth ymyl y Ganolfan Hamdden
ar lan y Llyn. Gweithgareddau. Mae Bala a’r cyffiniau yn cynnig i ymwelwyr lawer o weithgareddau awyr
agored, gyda nifer yn ynghlwm wrth ddŵr. Mae posib canŵio ar Lyn y
Bala, neu archebu tocyn am y profiad anhygoel o rafftio dŵr gwyllt,
lawr yr afon - ac mae pobol yn archebu hyn mwy nag unwaith! |
|||||